Digwyddiadau / Dosbarthiadau / Clybiau
rheolaidd sydd yn defnyddio Neuadd Llangristiolus.
Os hoffech ymuno ac unrhyw un, gwelwch yr wybodaeth isod.

Clwb Llyfrau Y Neuadd
Mae’r clwb llyfrau’n cwrdd ar Ddydd Gwener olaf y mis (heblaw am fis Rhagfyr) rhwng 1.30 a 3.00pm.
​
Rydym wedi bod yn cwrdd ers mis Mawrth 2024 ac mae gennym 16 aelod rhwng 20 ac 80 oed. Fel arfer mae 10-12 o bobl yn mynychu’r cyfarfodydd.
​
Llynedd darllenom ni lyfrau o bob cwr o’r byd. Y llyfr o Gymru oedd Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ross. Eleni rydym yn edrych ar wahanol 'genres' ac rydym eisoes wedi darllen Remarkable Creatures gan Tracey Chevalier a'r clasur Cymraeg Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis. Mae rhai aelodau’n darllen yn Gymraeg neu’n gwrando ar 'audiobooks'. Mae'r trafodaethau'n cael eu cynnal yn Saesneg.
​
Mae’r cyfarfodydd yn costio £2 ac yn cynnwys lluniaeth gyda chacennau cartref blasus.
​
Mae llefydd yn gyfyngedig ond os oes gennych ddiddordeb, gyrrwch ymholiad drwy glicio yma.

Crefftau AC
Mae tri grwp yn cael ei harwain a'i rhedeg gan Alison Chapman. Maent yn defnyddio'r Neuadd ers rhai blynyddoedd bellach.
​
Dydd Llun - Mae grŵp clytwaith yn cael ei gynnal bob dydd Llun o 9:30am tan 4:30 pm.
​
Nos Fercher - Mae grŵp clytwaith bob nos Fercher 6:30 p.m tan 9:00pm.
​
Dydd Sul yn fisol - Grŵp Gwnïo a Gorffwys 10:00am tan 4:00pm.
​
Os hoffech holi am fanylion ymuno unrhyw un o'r grwpiau hyn gyrrwch ymholiad drwy glicio yma.

Dosbarthiadau Cymraeg
O fis Medi 2025 bydd pedwar dosbarth dysgu Cymraeg yn cael eu cynnal yn y Neuadd gan Brifysgol Bangor.​
​
Nos Fawrth - Dosbarth Mynediad 2 : 6pm tan 8:30pm.
​
Bore Mawrth - Dosbarth Canolradd : 9:30am tan 12:30pm.
​
Dydd Llun- Dosbarth Uwch : 9:30 tan 3pm.
​
Cysylltwch i sicrhau lle mewn dosbarth drwy :
drwy anfon e bost at dysgucymraeg@bangor.ac.uk
neu ffoniwch 01248 383928

Bore Caffi
Bob bore Iau am 10:30, mae'r Neuadd yn cynnal Bore Caffi, pryd mae croeso i unrhyw un dro i mewn am banad a sgwrs. Mae byrddau llawn bob wythnos ond croeso mawr a digon o
le i fwy! Nid yw hwn yn ddigwyddiad ffurfiol, dim ond ffrindiau a chyfeillion o bell ac agos yn troi mewn i'r caffi cymunedol sydd ar agor rhwng 10:30 a 12:30.
Ambell dro mae sefydliadau lleol yn ymuno, ac mae plant Ysgol Henblas wedi dod draw
atom ar sawl achlysur. Ond sgwrsio a chymdeithasu yw'r nôd, a hoffem groesawu mwy i ddod am baned (o de coffi neu siocled poeth) a theisen - i gyd am £2!
​
Am fwy o wybodaeth,

Anglesey Textiles
Rydyn ni’n cwrdd bob 4ydd prynhawn Sadwrn y mis rhwng 1.30pm a 5.00pm.​
​
Rydyn ni’n grŵp anffurfiol a chyfeillgar, felly gallwch alw heibio unrhyw bryd o fewn yr amseroedd hynny i gyd-fynd â’ch amserlen. Gan ein bod ni’n grŵp bach ar hyn o bryd, rydym yn awyddus i dyfu er mwyn gallu cynnig mwy o weithdai.​
​
Mae sesiynau’n costio £5, gan gynnwys llogi’r neuadd a lluniaeth.​
​
Dewch â beth bynnag rydych chi’n gweithio arno cyn belled ei fod yn ymwneud â thecstilau: troellio, gwehyddu, gwnïo, grosio croes, brodwaith, gwau, crochetu – mae’r rhestr yn ddiddiwedd!
​
Yn ystod y sesiynau hyn, rydyn ni’n rhannu ein gwaith ac yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad.
​
Eleni (2025) rydym wedi dangos ein gwaith yn yr 'Anglesey Vintage Rally' ac wedi cynnal gweithdy Feltio Gwlyb ym mis Ionawr.
​
I’r rhai sy’n troelli, byddwn yn cynnal “Spin Along” ar Ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf fel rhan o’r Tour de Fleece.​​
​
Os oes gennych ddiddordeb yn y grŵp yma,