top of page

Polisi Cydraddoldeb

Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Cyfle Cyfartal

Mae'r Neuadd yn Llangristiolus yn bodoli i ddarparu gwasanaeth i holl bobl yr ardal a'r gymuned. Mae'r Neuadd ar gael i unrhyw grŵp neu unigolyn sydd am ei llogi ac ni fydd gwahaniaethu yn digwydd ar sail unrhyw fater. Mae hyn wrth gwrs yn cynnwys hil, statws priodasol, anabledd, oed, rhywioldeb, crefydd ac iaith.

 

Mae'r ymddiriedolwyr yn awyddus i'r Neuadd gael ei defnyddio gan ystod eang o bobl ac yn gadarn o blaid sicrhau cyfleodd addas i bobl allu mynychu digwyddiadau yn y Neuadd.

 

Mae'r ymddiriedolwyr wedi ymrwymo i sicrhau fod mynediad addas i bobl anabl, y bydd croeso i bobl o bob tras ethnig, rhywioldeb, crefydd a iaith yn nigwyddiadau'r Neuadd.

 

Disgwyliwn i'r rhai sy'n llogi'r Neuadd ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cydymffurfio â'r datganiad hwn.

bottom of page