Y Neuadd
Wedi'i lleoli yng nghanol Llangristiolus, Ynys Môn, mae ein neuadd bentref yn gwasanaethu fel canolfan groesawgar i'r gymuned leol. Gyda'i chyfleusterau modern a hygyrchedd llawn i bawb, mae'r neuadd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn - o gyfarfodydd cymunedol a ffeiriau crefftau i ddosbarthiadau ffitrwydd a dathliadau teuluol. P'un a ydych chi'n breswylydd lleol neu'n ymwelydd, mae Neuadd Bentref Llangristiolus yn cynnig lle cynnes a chynhwysol i ddod at ein gilydd a dathlu.
​
Mae'r neuadd yn elusen gofrestredig sydd yn cael ei rhedeg gan fwrdd o ymddiriedolwyr lleol.






Cyfleusterau
-
Capasiti cyfforddus i 60 o bobl.
-
Ystafell neuadd gydag ffenestr weini i'r gegin.
-
Gofod awyr agored.
-
Byrddau a chadeiriau.
-
Cegin, yn cynnwys popty, oergell, sinc, dosbarthwr dŵr poeth ar unwaith yn ogystal â llestri.
-
Toiled cwbl hygyrch gyda sinc a sychwr dwylo.
-
Gwres canolog.
-
Bwrdd gwyn.
-
Digon o socedi pŵer.

Syniadau o ddefnydd i'r neuadd :
-
Gweithdai
-
Clybiau
-
Sgyrsiau
-
Grwpiau
-
Gofod ymarfer
-
Partïon
-
Darlithoedd
A llawer iawn mwy - os yn ansicr cysylltwch â ni am sgwrs!​
​
* Nid oes gan y neuadd drwydded i werthu alcohol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.