Polisi Diogelu
Polisi Diogelu Plant a Phobl Agored i Niwed
Mae'r polisi hwn mewn lle er mwyn diogelu Plant a Phobl Agored i Niwed sydd yn mynychu Neuadd Llangristiolus. Mae hyn beth bynnag fyddo eu rhyw, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, crefydd neu ffydd.
Mae lles y Plentyn neu'r Unigolyn Agored i Niwed yn flaenllaw ac yn gyfrifoldeb ar bawb. Mae gan Blant a Phobl Agored i Niwed yr hawl i ddiogelwch rhag camdriniaeth, boed hynny yn gorfforol, emosiynol, rhywiol, bwlio, esgeulustod neu wahardd.
Mae gan pob person sy'n gysylltiedig a Neuadd Llangristiolus ddyletswydd i ddiogelu Plant a Phobl Agored i Niwed.
Ni ddylid tynnu lluniau Plant a Phobl Agored i Niwed heb dderbyn eu caniatad yn gyntaf, yn ogystal â chaniatad rhieni/gofalwyr.
Ni fydd unigolion sy'n ymddiriedolwyr y Neuadd na chontractwyr, llogwyr na gwirfoddolwyr yn cael mynediad at Blant a Phobl Agored i Niwed heb oruchwyliaeth.
Bydd angen i logwyr sy'n llogi'r Neuadd at ddefnydd efo Plant a Phobl Agored i Niwed sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth ynglyn â Diogelu ac efo'r dogfennaeth angenrheidiol (ee DBS dilys).
Bydd ymddiriedolwyr y Neuadd yn sicrhau fod y rhai sy'n llogi a defnyddio'r Neuadd yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb at Plant a Phobl Agored i Niwed.
Rhaid derbyn amodau'r polisi hwn cyn gallu llogi'r Neuadd.
Bydd copi o'r polisi hwn ar gael i logwyr ac i'w weld yn y Neuadd.