top of page

Amodau Llogi

Telerau ac Amodau Llogi'r Neuadd

  • Rhaid i'r sawl sy'n llogi'r Neuadd fod dros 18 oed a rhaid i berson cyfrifol heb fod yn llai na 18 oed fod yn bresennol yn y neuadd trwy gydol y cyfnod llogi.

  • Mae ysmygu wedi ei wahardd ym mhob rhan o'r neuadd; cyfrifoldeb y llogwr yw sicrhau fod pawb yn cadw at y rheol hon.

  • Ni chaniateir alcohol o unrhyw fath yn y Neuadd heb drafodaeth o flaen llaw gyda'r Ymddiriedolwyr.

  • Dylid dangos parch at gymdogion y neuadd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sicrhau nad oes sŵn gormodol o weithgareddau y tu mewn nac yn yr ardal o gwmpas y neuadd.

  • Rhaid sgubo pob llawr a'i olchi lle bo angen ar ôl defnyddio'r neuadd, a rhaid gwaredu pob sbwriel yn ôl y canllawiau yn y neuadd.

  • Dylid hysbysu'r Ymddiriedolwyr am unrhyw ddifrod i gyfarpar neu adeiladwaith y neuadd.

  • Dylid rhoi gwybod am unrhyw nam ar unrhyw offer.

Defnyddio Offerï‚·

 

  • Ni ddylid defnyddio pinnau bawd, hoelion ayb i osod addurniadau ac ati.ï‚·

  • Rhaid dychwelyd cadeiriau a byrddau yn ôl i'w llefydd priodol a'u stacio'n daclus.ï‚·

  • Rhaid sicrhau fod pob peth a phob rhan o'r Neuadd a ddefnyddir yn cael ei adael mewn cyflwr glân.ï‚·

  • Rhaid i unrhyw offer trydanol sy'n dod i mewn i'r neuadd ddod o dan adroddiad prawf PAT cyfredol.ï‚·

​​

Diogelwchï‚·

 

  • Mae'r neuadd wedi'i yswirio am uchafswm o 100 person.ï‚·

  • Dylai llogwyr ymgyfarwyddo â'r neuadd, yn enwedig yr allanfeydd brys a lleoliad a gweithrediad y diffoddwyr tân.ï‚·

  • Dylid cadw'r allanfeydd tan yn glir bob amser.

  • Rhaid i bob plentyn sy'n ymweld â'r neuadd fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Cyfrifoldebau a Rhwymedigaethauï‚·

​

  • Cyfrifoldeb llogwyr yw sicrhau bod ganddynt yswiriant priodol a digonol mewn perthynas â'u gweithgareddau tra'u bod ar y safle.ï‚·

  • Nid yw Ymddiriedolwyr y neuadd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anaf a ddioddefir neu golled neu ddifrod ageir o ganlyniad i logi y neuadd, y tiroedd cyfagos neu'r maes parcio na chwaith o gamddefnyddio unrhyw offer yn y neuadd.ï‚·

  • Nid yw Ymddiriedolwyr y neuadd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod sy'n deillio o'i ganslo neu derfynu llogi am ba bynnag reswm.ï‚·

  • Dylai'r llogwyr ymgyfarwyddo a pholisiau Diogelu a Datganiad Cyfle Cyfartal y Neuadd.

​

​

Sylwer: Cedwir hawl gan Neuadd Llangristiolus i ganslo yr archeb mewn achos o archebiad dwbl, naill ai oherwydd camgymeriad gweinyddol neu os bydd archeb arall wedi’i gwneud wyneb yn wyneb cyn cadarnhad.

​

​

bottom of page